Anghenion Dysgu Ychwanegol - Additional Learning Needs
Yn Ysgol Craig yr Wylfa bydd llawer o ddisgyblion ag angen ychwanegol ar ryw adeg yn eu cyfnod gyda ni. Daw rhai disgyblion atom gydag angen sydd wedi eu cydnabod yn barod a bydd anghenion eraill yn cael eu nodi gan staff o fewn yr ysgol. Bydd disgyblion yn cael eu cefnogi gyda chydymdeimlad a gydag ystod o strategaethau yn dibynnu ar yr angen. Ar hyn o bryd mae gennym ddisgyblion ag ystod o anghenion dysgu ychwanegol; meddygol, cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol.
Rydym yn cynnig ystod o raglenni ymyrraeth i gefnogi plant yn yr ysgol. Maent yn cynnwys:
Mae Ysgol Craig yr Wylfa hefyd yn ysgol sy’n deall awtistiaeth ar ôl cwblhau’r rhaglen Ysgol Gynradd Dysgu gydag Awtistiaeth, sydd wedi’i hachredu gan ASD Info Cymru. Mae pob aelod o staff wedi ymgymryd â'r cynllun hyfforddiant ac ardystio ymwybyddiaeth o awtistiaeth ac i'r disgyblion sydd wedi cymryd rhan yn y gwersi ymwybyddiaeth o awtistiaeth ac wedi llofnodi’r siarter. O fis Medi 2021 mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cod newydd ar gyfer ADY – cod y Tribiwnlys Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg. Mae'r cod newydd yn golygu y bydd unrhyw ddisgybl ag angen sy'n sylweddol fwy na'i gyfoedion yn cael mynediad at gymorth ychwanegol a bydd ganddynt Gynllun Datblygu Unigol (CDU). Mae’r CDU yn gynllun statudol a gynhelir gan yr ysgol sy’n gosod disgrifiad o ADY plentyn, y ddarpariaeth dysgu ychwanegol (DdY) ac sydd hefyd yn cynnwys Proffil Un Dudalen. Bydd rhain yn cael eu hadolygu gyda rhieni a disgyblion, gan sicrhau bod barn, dymuniadau a theimladau’r plant a’u rhieni yn cael eu hystyried. Miss Hughes yw Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol Ysgol Craig yr Wylfa. Cysylltwch â hi ([email protected]) i wneud apwyntiad os hoffech drafod unrhyw agwedd o addysg eich plentyn yn ymwneud ag anghenion dysgu ychwanegol. Am ragor o wybodaeth, gweler hefyd: https://www.ceredigion.gov.uk/resident/schools-education/special-educational-needs-sen/ |
At Craig yr Wylfa school there will be many pupils who have an additional need at some point in their time with us. Some pupils come with an already recognised need and others will have their need identified by staff within the school. Pupils are supported sympathetically and with a range of strategies depending on their need. We currently have pupils in Craig yr Wylfa with a range of additional learning, medical, social and emotional and behavioural needs.
We offer a range of intervention programmes to support children within school. They include:
Craig yr Wylfa school is also an autism friendly school after completing the Learning with Autism Primary School programme, which is accredited by ASD Info Wales. Every member of staff has undertaken the autism awareness training and certification scheme and to the pupils who have taken part in the autism aware lessons and signed the charter. From September 2021 Welsh Government has introduced a new code for ALN – the Additional Learning Needs and Education Tribunal code. The code means that any pupil with a need which is significantly greater than their peers will have access to additional support and will have an Individual Development Plan (IDP). The IDP is a statutory plan maintained by the school that sets out a description of a child’s ALN, the additional learning provision (ALP) and also contains a One Page Profile. These will be reviewed with parents and pupils, ensuring that the views, wishes and feelings of the children and their parents are taken into consideration. Miss Hughes is the Additional Learning Needs Co-ordinator for Craig yr Wylfa School . Please contact her ([email protected]) to make an appointment if you would like to discuss any aspect of your child’s education relating to additional learning needs. For more information, also see: https://www.ceredigion.gov.uk/resident/schools-education/special-educational-needs-sen/ |