Follow us on Twitter
Ysgol Gymunedol Craig Yr Wylfa Craig Yr Wylfa Community Primary School
  • Cartref / Home
  • Staff
    • Staff
  • Dyddiadur / Diary
  • Newyddion / News
  • Clybiau / Clubs
  • Llawlyfr / Handbook
  • Cyngor Ysgol / School Council
    • Minutes
    • Pupil Page
  • Llywodraethwyr/Governors & PTFA
    • Minutes
  • Cysylltu / Contact us
  • Llythyron / Letters
  • Dolenni / Links
  • ADY / ALN
Picture
​
​
CROESO / WELCOME
 

Ysgol bentref ydy Ysgol Craig yr Wylfa sydd wedi’i lleoli ar y graig yng nghanol y pentref prydferth hwn. Mae’r ysgol yn ffodus o fod mewn un o leoliadau hyfrytaf y pentref lle rydym yn mwynhau golygfeydd godidog Bae Ceredigion.
Ein nod yw darparu awyrgylch dysgu cyffrous, heriol ac ysbrydoledig ble mae pob unigolyn yn teimlo’n werthfawr ac yn ddiogel.
Rydym yn ymfalchïo ein bod ni’n medru darparu profiadau dysgu cynhwysfawr, diddorol a heriol i’n holl ddysgwyr. Cyflwynwn gwricwlwm cyflawn gyda meithrin sgiliau llythrennedd a rhifedd yn flaenoriaeth trwy’r iaith Cymraeg. Rydym hefyd yn pwysleisio elfennau pwysig eraill fel cyfathrebu, TGCh, datblygu medrau meddwl a datrys problemau. Rydym yn dilyn canllawiau asesu ar gyfer dysgu ac mae rhoi lle canolog i lais y dysgwyr yn bwysig iawn i ni. Rydym yn ysgol sy’n Awtistig Gyfeillgar ac yn ymfalchïo ein bod yn gynhwysol, lle mae lles a sicrhau bod pob plentyn yn cyrraedd ei llawn botensial o’r pwys mwyaf. Mae disgyblaeth dda a chwrteisi yn hanfodol yn Ysgol Craig yr Wylfa, ac mae disgwyl i bob aelod o’n cymuned ysgol barchu a glynu wrth bolisïau’r ysgol.
Fel ysgol gymunedol, credwn ei bod yn ddyletswydd arnom i gydweithio gyda chymdeithasau cymunedol eraill er mwyn cyflawni ein potensial a chreu gwir deimlad o berthyn i’n disgyblion o fewn eu pentref nhw. Rydym yn falch iawn o’n cysylltiadau cryf lleol gyda Chanolfan Deulu’r Borth, Plant Dewi, Cymdeithas yr Henoed a llawer mwy. Mae’r ysgol, heb os, yn rhan hanfodol o fywyd cymunedol y pentref ac rydym yn wir ddiolchgar am y gefnogaeth a dderbyniwn gan ein holl bartneriaid a’r budd-ddeiliaid ac rydym yn awyddus iawn i ddatblygu ein cysylltiadau ymhellach yn ystod y flwyddyn.

Mae Ysgol Craig Yr Wylfa yn aelod gweithgar o Gynllun Ysgolion Iach – Rhwydwaith Cymru. Mae ysgol iach yn ysgol sy’n mynd ati i hybu a diogelu iechyd a lles corfforol, meddyliol a chymdeithasol ei chymuned trwy gymryd camau cadarnhaol megis llunio polisïau, gwneud gwaith cynllunio strategol a datblygu staff, mewn perthynas â chwricwlwm, ethos ac amgylchedd ffisegol yr ysgol a’i chysylltiadau â’r gymuned.



Ysgol Craig yr Wylfa is a village primary school situated in the heart of the village of Borth. We are very fortunate to be placed in one of the ‘beauty spots’ of the village where we enjoy glorious views of Cardigan Bay. Our aim is to provide an exciting, challenging and inspiring learning environment for all our pupils in a place where everybody feels happy, valued and safe.
We pride ourselves on delivering an inclusive, interesting and challenging learning experience for our pupils. We provide a complete curriculum with promoting literacy and numeracy skills a priority, through the medium of Welsh. We also place an emphasis on other important aspects such as ICT, communication, problem solving and developing thinking skills. Implementing assessment for learning techniques and listening to the voice of the learner are very important to us. We are an Autism Friendly establishment and pride ourselves on being inclusive where well-being and ensuring each pupil reaches their full potential is of the highest importance. Good discipline and manners are a priority and it is expected that each member of our school community adheres closely to the school’s policies.
As a community school, we believe that it is our duty to work together with other community groups to fulfil our potential and to create a true sense of belonging for our pupils within their home village. We are very proud of our close links with the Borth Family Centre, Plant Dewi, Borth Senior Citizens and many more. The school is a vital cog in the mechanics of the village, and we are truly grateful for the continued support from all our partners and stakeholders and we look forward to further developing our role within the community over the coming year.
Ysgol Craig Yr Wylfa  is an active member of the Welsh Network of Healthy Schools Schemes. A healthy school is one which actively promotes and protects the physical, mental and social health and wellbeing of its community through positive action by such means of policy, strategic planning and staff development, with regard to its curriculum, ethos, physical environment and community relations.
Diolch am eich diddordeb a mwynhewch bori trwy'r tudalennau ar ein gwefan 
i ddysgu mwy am fywyd a gwaith ein hysgol. 
Thank you for your interest and please enjoy browsing through the pages on our website to learn more about the life and work of our school.  


Picture
Powered by Create your own unique website with customizable templates.