Cwricwlwm a dysgu
Curriculum and learning
Cwricwlwm a dysgu
Rydym yn darparu cwricwlwm cyflawn, yn bennaf trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hyn yn cynnwys datblygu sgiliau cyfathrebu, datrys problemau a medrau meddwl, mathemateg ac iaith, medrau digidol a’r cyfryngau, gwyddoniaeth a natur, hanes a daearyddiaeth, crefydd a moesoldeb, y celfyddydau, drama a cherddoriaeth, gyda chymysgedd o ddysgu annibynnol, tasgau mewn grŵp bach a gweithgareddau dosbarth cyfan. Mae ein dull dysgu plentyn-ganolog a dosbarthiadau bach yn golygu y gallwn deilwra’r dysgu fel bod pob plentyn yn cael cyfleoedd i ddatblygu hyd eithaf ei botensial. Yn ogystal ag Addysg Gorfforol, rydym yn cynnig gwersi nofio wythnosol a gweithgareddau Ysgol y Goedwig neu Ysgol y Traeth sy'n helpu ein disgyblion i ddatblygu eu medrau, magu hyder, cadw’n iach, a theimlo'n rhan o’r amgylchfyd. Mae ein cwricwlwm yn cysylltu Borth, Cymru a’r byd, gyda disgyblion yn cydweithio i benderfynu ar themâu a phrosiectau. Mae gennym dripiau ysgol a digwyddiadau rheolaidd ac amrywiol i helpu i ehangu gorwelion ein disgyblion – a chael hwyl! Mae ein staff yn frwdfrydig, yn ymroddedig, ac yn ymdrechu’n barhaus i wella’r ddarpariaeth ar gyfer holl ddisgyblion yr ysgol. |
Curriculum and learning
We provide a complete curriculum mainly through the medium of Welsh. This includes developing communication, problem solving and thinking skills, maths and language, digital and media skills, science and nature, history and geography, religion and morality, arts, drama, and music, with a mix of independent, small group and whole class learning. Our child-centred learning approach and small class sizes means we can tailor learning and help each child develop to the best of their potential. Besides PE, we have weekly swimming and Forest or Beach School activities which helps our pupils develop skills, build confidence, stay healthy, and feel connected to the environment. Our curriculum connects Borth, Wales and the world, with pupils helping to decide on themes and projects. We have regular and diverse school trips and events to help expand pupils’ horizons – and have fun! Our staff are enthusiastic, committed, and continuously strive to improve the provision for all the pupils in the school. |
"Ers symud fy mhlentyn i Ysgol Craig yr Wylfa, dwi wedi gweld gwelliannau mawr yn ei hyder, lles a sgiliau academaidd. Mae maint, teimlad teuluol a ffocws cymunedol yr ysgol yn cynnig dysgu rhwng cenedlaethau ac addysgu personol. Mae addysg awyr agored gyda'r ysgol goedwig wythnosol a gwersi nofio yn gwneud dysgu'n iach, yn egnïol ac yn hwyl. Fel siaradwr Cymraeg, rwy'n gwerthfawrogi ymrwymiad yr ysgol i hyrwyddo ac addysgu'r Gymraeg." -Llais rhieni |
"Since moving my child to Ysgol Craig yr Wylfa, I’ve seen remarkable improvements in their confidence, well-being, and academic skills. The school’s size, family feel and community focus enables intergenerational learning and personalised teaching. Outdoor education with weekly forest school and swimming lessons make learning healthy, active and fun. As a Welsh speaker, I appreciate the school’s commitment to promoting and teaching the Welsh language"- Parent's voice |