Follow us on Twitter
Ysgol Gymunedol Craig Yr Wylfa Craig Yr Wylfa Community Primary School
  • Cartref / Home
  • Staff
    • Staff
  • Dyddiadur / Diary
  • Newyddion / News
  • Clybiau / Clubs
  • Llawlyfr / Handbook
  • Cyngor Ysgol / School Council
    • Minutes
    • Pupil Page
  • Llywodraethwyr/Governors & PTFA
    • Minutes
  • Cysylltu / Contact us
  • Llythyron / Letters
  • Dolenni / Links
  • ADY / ALN
Picture
Picture
Cyfnod Allweddol 2
Mae dosbarth Cyfnod Allweddol 2 wedi bod wrthi’n brysur yn ail gydio yn egwyddorion y Siarter iaith dros y mis diwethaf. Yn dilyn cyfnod hir o fod adre, roedd pawb yn teimlo ei bod hi’n bwysig ail afael yn y gweithgareddau i hyrwyddo siarad Cymraeg yn yr ysgol. Mae’r plant wedi bod yn creu posteri, bathodynnau, ‘mobiles’ a thocynnau iaith er mwyn codi proffil y Siarter yn yr ysgol. Maent hefyd wedi bod yn creu animeiddiadau bywiog ar yr i-Pads a dilyn hyfforddiant bît-bocsio gwych gan Ed Holden (Mr Phormula) dros y we.
Mae rhai o blant hŷn yr ysgol wedi dechrau prosiect arbennig gyda disgyblion Ysgol Tal-y-bont yn ddiweddar. Pwrpas ‘Pont yr Wylfa’ yw sicrhau cyfnod gwerthfawr o drafod eu teimladau ynghanol cyfnod sydd wedi bod yn anodd i’r plant. Maent wedi bod yn agored iawn wrth rannu syniadau am y pethau sydd wedi digwydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a sut maent wedi ymdopi gyda’r holl newidiadau. Gobeithio y bydd y prosiect yn gallu parhau i ddatblygu yn yr wythnosau nesaf.

Key Stage 2
The Key Stage 2 class has been busy recapturing the principles of the Language Charter over the last month. After a long period of being home, everyone felt that it was important to resume activities to promote speaking Welsh at school. The children have been creating posters, badges, mobiles and language tickets to raise the profile of the Charter in the school. They have also been creating lively animations on the i-Pads and following great beat-boxing training by Ed Holden (Mr Phormula) over the web. Some of the school's older children have recently started a special project with pupils at Ysgol Tal-y-bont. The purpose of the 'Pont yr Wylfa' is to provide valuable time to discuss their feelings in what has been a difficult time for the children. They have been very open in sharing ideas about what has happened in the last year and how they have coped with all the changes. Hopefully the project can continue to develop in the coming weeks.
Y Cyfnod Sylfaen
Mae wedi bod yn brysur iawn yn nosbarth y Cyfnod Sylfaen ers dechrau nol ar ôl y Pasg. Mae’r plant wedi bod wrth eu boddau’n dilyn thema Mor-ladron. Mae’r cwch sydd yn yr ardal allanol wedi cael ei adnewyddu ac mae’n hyfryd gweld y plant yn cymryd eu chwarae rôl o ddifri, gan gynnwys gorfodi’r staff i gerdded y planc! Mae hefyd wedi bod yn hyfryd yn clywed y plant yn canu addasiad o Mi Welais Jac y Do ond ymddiheuriadau i’r cymdogion!
Mi welais Capten Jac,
Yn edrych ar ei fap,
Het ddu ar ei ben
Ac un goes bren,
Ho! Ho! Ho! Ho! Ho! Ho!
 
Mae’r dosbarth hefyd wedi bod yn darllen stori Mali a’r Morfil gan Malachy Doyle ac Andrew Whitson. Mae’r stori’n rhan o becyn gafodd yr ysgol gan Cyngor Llyfrau Cymru i hyrwyddo’r syniad o empathi ymysg ein disgyblion. Mae’n stori hyfryd sy’n pwysleisio pwysigrwydd cydweithio a’r ymdrech gymunedol i achub morfil. Mae’r plant wedi bod yn mwynhau actio rhannau o’r stori, dysgu ffeithiau am forfilod a chreu animeiddiadau hyfryd ar yr i-Pad.
The Foundation Phase
It has been very busy in the Foundation Phase class since starting back after Easter. The children have loved following the theme of pirates. The boat in the outside area has been refurbished and it is lovely to see the children taking their role play seriously, including forcing staff to walk the plank! It's also lovely hearing the children sing an adaptation of Mi welais Jac y Do but apologies to the neighbours! 
The class has also been reading the story of Mali and the Whale by Malachy Doyle and Andrew Whitson. The story is part of a pack the school received from the Welsh Books Council to promote the idea of ​​empathy among our pupils. It is a lovely story that emphasises the importance of collaboration and the community effort to save a whale. The children have been enjoying acting out parts of the story, learning facts about whales and creating beautiful animations on the i-Pad.

Picture
Picture
Picture
Picture
Picture
Picture
Gwasanaeth Tân
Mae gan yr ysgol gysylltiad cryf iawn gyda’r Gwasanaeth Tân ac yn ystod y mis cafodd plant y Cyfnod Sylfaen ymweliad arbennig gan Bethan. Yn y gorffennol rydym wedi gallu croesawu’r Frigâd Dân i’r ysgol ac wedi mwynhau gweld yr injan dân ar yr iard. Ond yn anffodus, ymweliad rhithiol oedd hyn y tro yma. Diolch yn fawr i Bethan am gadw cysylltiad efo’r ysgol ac am y cynghorion doeth. Rydym yn croesi bysedd y gallwn ei chroesawu i’r ysgol ar gyfer yr ymweliad nesaf!
Fire Service
​
The school has a very strong link with the Fire Service and during the month the Foundation Phase children had a special visit from Bethan. In the past we have been able to welcome the Fire Brigade to school and have enjoyed seeing the fire engine on the yard. Unfortunately, this time it was a virtual visit. Many thanks to Bethan for keeping in touch with the school and for the top tips. We are crossing fingers that we can welcome you to school for the next visit!

​Tyfu Dyfi
I ddathlu dyfodiad y gwanwyn, fe dderbyniodd pob teulu anrheg hyfryd ar ddiwedd y tymor, sef pecyn o hadau amrywiol i’w plannu yn yr ardd adref. Roedd y pecyn yn gyfuniad o hadau llysiau a blodau a gobeithio y gallwn weld lluniau o’r cynnyrch yn tyfu dros yr wythnosau nesaf. Diolch yn fawr i griw Tyfu Dyfi am sicrhau fod y pecynnau wedi ein cyrraedd a phob hwyl i bawb gyda’r plannu a’r tyfu. 
Grow Dyfi
To celebrate the arrival of spring, each family received a lovely gift at the end of the term, a pack of various seeds to plant in the garden. The pack was a combination of vegetable and flower seeds and hopefully we can see photos of the plants growing over the next few weeks. Many thanks to the Tyfu Dyfi crew for making sure the packages arrived and good luck to everyone with planting and growing.

Picture
Picture
Picture
Picture
Picture
Picture

Cyfnod Allweddol 2
I groesawu’r plant hynaf yn ôl i’r ysgol ym mis Mawrth cynhaliwyd bore coffi yn y dosbarth. Roedd yn syniad da iawn i gynnig cyfle i’r plant sgwrio gyda’i gilydd mewn awyrgylch hamddenol. Er i’r plant weld ei gilydd bron yn ddyddiol ar TEAMS yn ystod y cyfnod clo, dyma’r tro cyntaf iddynt weld ei gilydd wyneb yn wyneb ers tri mis! Roedd lefel y sŵn a’r bwrlwm cyffrous yn awgrymu fod y plant wedi mwynhau’r cyfle i gymdeithasu’n fawr iawn!
 
Un o’r gweithgareddau wnaeth y plant fwynhau cyn diwedd y tymor oedd arbrawf i amddiffyn wy rhag torri wrth ei ollwng o uchder!. Cafwyd nifer o syniadau gwych, ac roedd llawer o gydweithio manwl wrth gynllunio a dewis y deunydd mwyaf addas ar gyfer y canlyniadau gorau! Da iawn chi blant am fod yn ddyfeisgar!

Key Stage 2
To welcome the older children back to school in March a coffee morning was held in class. It was a really good idea to offer the children the opportunity to chat together in a relaxed atmosphere. Although the children saw each other almost daily on TEAMS during the lockdown, it was the first time they had seen each other face to face in three months! The level of noise and the buzz of excitement suggested that the children really enjoyed the opportunity to socialise!

One of the activities the children enjoyed before the end of term was an experiment to protect an egg from breaking when dropped from a height! There were lots of great ideas, and lots of detailed collaboration in designing and choosing the most suitable material for the best results! Well done kids for being inventive!
Cyfnod Sylfaen
Yn ystod diwrnod olaf Tymor y Gwanwyn tymor bu’r disgyblion yn cynnal nifer o ddigwyddiadau i ddathlu’r Pasg. Yn ystod y bore, bu’r plant yn gwrando ar Miss Ann yn darllen stori’r Pasg a wedyn cafodd y dosbarth gyfle i fwynhau coginio nythod siocled a chreu cardiau Pasg. Yn ystod y prynhawn, roedd y tywydd wedi caniatáu i bawb fod tu allan i ddilyn cliwiau er mwyn dod o hyd i wobrau yn yr helfa wyau. Wedi cyfnod prysur o chwilio, llwyddodd y plant i ddod o hyd i’r holl wyau – da iawn chi. Ar ddiwedd y dydd, rhoddwyd wy Pasg i bob plentyn – anrheg haeddiannol iawn ar ôl tymor mor ryfedd.
Foundation phase
During the last day of the Spring Term the pupils held a number of events to celebrate Easter. During the morning, the children listened to Miss Ann read the Easter story and then the class enjoyed cooking chocolate nests and creating Easter cards. During the afternoon, the weather had allowed everyone to be outside to follow clues to find prizes in the egg hunt. After a busy period of searching, the children were able to find all the eggs - well done. At the end of the day, each child was given an Easter egg - a well deserved gift after such a strange term.
Ebrill 2021
Wrth edrych yn ôl dros y flwyddyn i fis Mawrth diwethaf, mae hi bron yn amhosib cloriannu yr holl newidiadau sydd wedi digwydd i fywyd ysgol. Buom mewn cyfnodau clo llym, cyfnodau clo dros gyfnod byr a chyfnodau hefyd o fod yn yr ysgol. Mae’r plant wedi gorfod addasu’n gyflym i weithio adref gyda’r athrawon dysgu o bell gan ddefnyddio’r dechnoleg fodern, i fod nol yn yr ysgol ond o dan reolau llym o lanweithdra a gwisgo mwgwd, cadw pellter cymdeithasol ac aros mewn ‘swigod’ fesul dosbarth.
Ond daeth llygedyn o obaith am ddyfodol gwell gyda chroesawu plant hynaf yr ysgol yn ôl yn ystod mis Mawrth. Ac er ein bod yn parhau i fod yn hynod ofalus, roedd hi’n deimlad braf i gael pawb yn ôl at ei gilydd. Ac mae’r teimlad yna wedi parhau wrth i ni groesawu’r plant ar ôl gwyliau’r Pasg.
April 2021
Looking back over the year to last March, it is almost impossible to evaluate all the changes that have taken place in school life. We have been in severe lock-downs, short-term lock-downs and also periods of being in school. The children have had to adapt quickly to work at home with teachers providing distance learning using modern technology, to be back at school but under strict rules of cleanliness and mask wearing, keeping social distance and staying in class 'bubbles'. But there was a glimmer of hope for a better future with welcoming the school's oldest children back in March. And while we continue to be extremely careful, it was a nice feeling to get everyone back together. And that feeling has continued as we welcome the children after the Easter holidays.

Picture
Picture
The Wall
Fe gawsom ni gyd cryn dipyn o sioc ychydig wythnosau nol o weld Miss Ann yn rhan o’r rhaglen The Wall sydd i’w weld ar y BBC ar nos Sadwrn. Llongyfarchiadau mawr i chi!

We were all shocked a few weeks ago to see Miss Ann on the TV program The Wall on BBC on Saturday night. Congratulations to you!
PC Hannah
Diolch yn fawr i PC Hannah am gynnal sesiwn arbennig gyda phlant y Cyfnod Sylfaen. Mae hi’n dipyn o her i gynnal y sesiwn ar-lein a llwyddwyd i drosglwyddo’r negeseuon pwysig yn dda iawn.
Many thanks to PC Hannah for hosting a special session with Foundation Phase children. Hosting the session online is challenging and the important messages have been delivered very well.
Picture
Picture
Picture
HWB Gofal
Yn ystod y cyfnod clo diweddaraf yma, hoffwn i ddiolch o galon i’r staff sydd wedi bod yn cynnal ein Hwb Gofal yn yr ysgol. Mae’r plant sydd wedi bod yn mynychu wedi cael profiadau amrywiol a chyffrous. Yn ogystal â chwblhau eu gwaith, mae’r plant wedi bod yn paratoi bwyd a choginio ac yn cyflawni pob math o waith celf sydd bellach yn harddu waliau’r ysgol.
Care HUB
During this latest lock-down, I would like to thank the staff who have been running our Care Hub in school. The children who have been attending have had various and exciting experiences. As well as completing their work, the children have been preparing food and cooking and carrying out all kinds of artwork that now adorn the walls of the school.

Dydd Gŵyl Dewi
Roedd dathliadau Dydd Gŵyl Dewi yn wahanol iawn eleni wrth gwrs, ond roedd digon o fwrlwm yn y dosbarthiadau ac ar-lein hefyd. Roedd yn gyfle da i atgyfnerthu ffeithiau am ein nawddsant mewn awyrgylch hwyliog
.
St David's Day                                
St David's Day celebrations were very different this year, but there was plenty of buzz in the classes and online too. It was a good opportunity to reinforce facts about our patron saint in a fun atmosphere.
Picture
Picture
Picture
Picture
Dychwelyd i’r ysgol
Mae hi wedi bod mor braf i ddechrau croesawu plant yn ôl i’r ysgol yn ystod y mis diwethaf. Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ceredigion, mae plant y Cyfnod Sylfaen bellach yn ôl yn eu dosbarthiadau. Ac er ein bod yn gorfod parhau gyda’r holl fesuriadau hylendid trylwyr oedd ar waith cyn y Nadolig o ran cadw grwpiau cyswllt, cymryd tymheredd, creu llwybrau unffordd a glanhau ychwanegol mae’r plant a’r staff wedi llwyddo i greu awyrgylch hyfryd yma.
Cyn diwedd mis Mawrth rydym yn gobeithio’n fawr y bydd plant Cyfnod Allweddol 2 yn gallu dychwelyd atom fel ein bod unwaith eto’n gallu teimlo fel ysgol gyfan. Yn y cyfamser, mae’r plant yma’n parhau i gael eu dysgu o bell ac rydym yn gwerthfawrogi’n fawr ymdrechion eu teuluoedd i’n cefnogi gyda’r dysgu. Mae hi wedi bod yn braf i weld wynebau’r plant mewn sesiynau ffrydio byw a gweld y gwaith amrywiol sy’n cael ei gyflwyno ar TEAMS.
Return to school
It has been so nice to start welcoming children back to school over the last month. In line with Welsh Government and Ceredigion County Council guidelines, Foundation Phase children are now back in their classes. And while we have to carry on with all the rigorous hygiene measures in place before Christmas in terms of keeping contact groups, taking temperatures, creating one-way trails and extra cleaning, the children and staff have managed to create a lovely atmosphere here. By the end of March we are hoping that Key Stage 2 children will be able to return to us so that we can once again feel like a whole school. In the meantime, these children continue to be taught online and we greatly appreciate the efforts of their families to support us with their learning. It's been great to see the children's faces in live streaming sessions and see the various work being presented on TEAMS.


CARNIFAL Y BORTH
Llongyfarchiadau mawr i Chelsea am ennill cystadleuaeth arlunio. Mae dy lun yn edrych yn wych ar glawr y cylchgrawn.
BORTH CARNIVAL
​
Congratulations to Chelsea for winning a drawing competition.
Your picture looks great on the cover of the magazine.

Picture
Picture
​FFARWELIO
Yn siomedig iawn bu’n rhaid ffarwelio gyda Mrs Elen Davies-Williams ar ddiwedd y tymor. Hoffwn fanteisio ar y cyfle yma i ddiolch o galon iddi am ei holl waith yn yr ysgol dros y blynyddoedd diwethaf. Bu’n dysgu yn Ysgol Craig y Wylfa ers sawl blwyddyn gan gyfrannu’n dda i sawl agwedd o fywyd a gwaith yr ysgol. Rydym yn ddiolchgar iawn iddi am ei holl waith caled yn ystod y cyfnod yma.
Yn anffodus, oherwydd y cyfyngiadau presennol, bu’n rhaid i ni ffarwelio gyda Mrs Davies dros TEAMS. Wrth ddymuno’r gorau iddi yn y dyfodol, rhaid cydnabod y bydd yn rhyfedd iawn yma heb Mrs Davies gan obeithio y byddwn yn eich gallu eich gweld yn fuan yn y flwyddyn newydd. Trefnwyd anrheg iddi gan y Gymdeithas Rhieni, Athrawon a Ffrindiau’r Ysgol.
GOODBYE
 Disappointingly we had to say goodbye to Mrs Elen Davies-Williams at the end of term. I would like to take this opportunity to thank her for all her work at the school over the last few years. She taught at Craig y Wylfa School for many years and contributed well to many aspects of the life and work of the school. We are very grateful to her for all her hard work during this time. Unfortunately, due to the current restrictions, we had to say goodbye to Mrs Davies over TEAMS. In wishing her the best in the future, it must be acknowledged that it will be very strange here without Mrs Davies and we hope to see her again soon. A gift was arranged for her by the PTFA.


CRIW CYMRAEG
Cafodd y Criw Cymraeg syniad gwych cyn torri am wyliau. Trefnwyd cystadleuaeth ffotograffiaeth arbennig ar y thema “Rhywbeth Cymraeg neu Gymreig yn Borth a’r Cyffiniau”. Hoffwn i ddiolch yn fawr i Elin Crowley am feirniadu ac roedd hi’n canmol safon y ffotograffau’n fawr - https//elincrowleyprint.cymru.
​Diolch hefyd i Siop y Pethe ac i Siop Inc am y gwobrau hael.
1af – Iyla sy’n amlwg wedi bod yn brysur yn tyfu llysiau
2il – Harper sydd wedi cynnwys lliwiau cryf gyda’r Ddraig Goch yn llawn bywyd yn cyhwfan yn y gwynt.
The Criw Cymraeg came up with a great idea before breaking for a holiday. A special photography competition was organised on the theme of "Something Welsh or Welsh in Borth and the District". I would like to thank Elin Crowley very much for judging and she was very complimentary about the quality of the photos - https // elincrowleyprint.cymru.
Thanks also to Siop y Pethe and Siop Inc for the generous prizes.
1st - Iyla who has obviously been busy growing vegetables
2nd - Harper who has incorporated strong colors with the Red Dragon full of life fluttering in the wind.

Picture
1af Iyla
Picture
2ail Harper
Picture
Picture
Picture
Picture
NADOLIG
Rhwng pob dim, roedd cyfnod y Nadolig eleni’n dipyn tawelach nag arfer! Yn anffodus, ni fu modd cynnal y cyngerdd Nadolig arferol, ond fe barhaodd yr ysgol i fod yn lle hynod brysur. Aeth pob dosbarth ati’n frwdfrydig i greu cynhyrchion gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i greu ffilmiau ac animeiddiadau difyr a diddorol. Da iawn chi – plant a staff am eich dyfeisgarwch.
Ond roedd cyfle i ddathlu hefyd. Cafwyd cinio Nadolig blasus diolch i Wendy a’r criw nid yn unig ar gyfer y Nadolig ond ar hyd y flwyddyn hefyd. Fel y gwelwch o’r lluniau, roedd pawb wedi eu plesio’n fawr. Sylwch ar y darnau plastig ar ganol y bwrdd er mwyn cadw pawb yn ddiogel.
Un o uchafbwyntiau’r wythnos olaf oedd ymweliad gan rywun arbennig iawn! Tra bod y ceirw’n cael hoe, cyrhaeddodd Siôn Corn yr ysgol mewn trelar! Diolch yn fawr i’r teulu Jarvis am y goeden Nadolig urddasol hefyd.
Mae hi’n draddodiad bellach i roi’r cyfle i bawb wisgo eu siwmperi Nadolig yn y cyfnod yma. Roedd hi’n hyfryd i weld yr amrywiaeth gyda nifer o’r siwmperi’n goleuo ac y fflachio! Roedd hefyd yn gyfle i godi ymwybyddiaeth o waith elusen Achub y Plant ac yn gyfle da i atgoffa’r plant am amgylchiadau plant eraill ar draws y byd.
CHRISTMAS
All in all, the Christmas period this year was much quieter than usual! Unfortunately, it was not possible to hold the usual Christmas concert, but the school continued to be a very busy place. All classes enthusiastically created products using the latest technology to create entertaining and interesting films and animations. Well done - children and staff for your ingenuity. But there was also an opportunity to celebrate. We had a delicious Christmas lunch thanks to Wendy and the crew not only for Christmas but all year round as well. As you can see from the pictures, everyone was very impressed. Observe the plastic pieces in the centre of the table to keep everyone safe. One of the highlights of the last week was a visit from someone very special! While the reindeer are having a break, Santa arrived at school in a trailer! Many thanks to the Jarvis family for the noble Christmas tree as well. It is now tradition to give everyone the opportunity to wear their Christmas jumpers at this time. It was lovely to see the variety with many of the jumpers lit and flashing! It was also an opportunity to raise awareness of the work of Save the Children charity and a good opportunity to remind the children of other children's circumstances around the world.

Picture
Ffair Aeaf
Clod i bob plentyn a wnaeth gystadlu yn yr adran Celf ac addurno cacennau yn y Ffair Aeaf eleni. Roedd eich gwaith yn edrych yn arbennig o dda a chafodd ei arddangos i fyny yn y Ffair Aeaf. Llongyfarchiadau enfawr i Gwendolen sydd ym mlwyddyn 1 a chafodd yr ail wobr am ei llun o Siôn Corn!
Sul y Cofio
Eleni roedd hi’n flwyddyn bwysig iawn i gofio am y Rhyfel Byd Cyntaf, gan fod can mlynedd ers i’r rhyfel yma orffen. Daeth Becky, sef arlunydd o’r pentref i wneud gweithgaredd printio gyda phlant Cyfnod Allweddol Dau. Er mwyn gwneud y printiau, roedd y plant wedi gorfod tynnu llythrennau a’i torri allan er mwyn creu enwau o’r milwyr lleol, i’w osod wrth luniau o’r milwyr. Yna, yn garedig, gwnaeth Becky y printiadau yma mewn i faneri. Cafodd y baneri yma ei harddangos, ac roeddent yn chwifio ar draeth Ynys Las ar ddydd Sul y Cofio.
 
Yn ystod yr wythnos yn dilyn y digwyddiad yma yn Ynys Las, daeth rhai aelodau o Bwyllgor y Rhyfel Byd Cyntaf Borth, yn cynnwys Carol Bainbridge, sydd ar lywodraethwyr yr ysgol i gyflwyno copi o’r llyfr yr un i’r plant.  Llyfr llawn hanes am filwyr o’r pentref a hanes y pentref yn ystod y rhyfel erchyll yma. Diolch o galon am y llyfrau diddorol yma.

Picture
​Dathlu Diwali
Daeth Carol Bainbridge mewn i’r Ysgol ar ddechrau mis Tachwedd i gynnal gwasanaeth am “Diwali”. Adroddodd stori Rama a Sita ac esbonio traddodiadau Diwali. Roedd Ms Bainbridge wedi gwisgo i fyny mewn dillad traddodiadol Hindŵaid ac yn edrych yn smart iawn! Diolch am gynnal gwasanaeth mor hyfryd. Yn dilyn y gwasanaeth yma, bu’r plant yn brysur iawn yn ystod yr wythnos yn gwneud amryw o dasgau diddorol yn seiliedig ar Ddiwali.
Cerddoriaeth Cŵl Cymraeg Craig!
Daeth “Ynni Da", i’r ysgol fel rhan o brosiect Siarter Iaith. Gwnaeth y plant wrando a dewis caneuon Cymraeg i chwarae yn y disgo, ac yna creu pŵer i chwarae'r gerddoriaeth drwy bedlo ar y beiciau i greu’r pŵer. Cafodd y plant ddiwrnod i’r brenin wrth iddynt rocio i gerddoriaeth Cymraeg cŵl.
Picture
Cyfuno Celf ag Ailgylchu.
Aeth blwyddyn 2 a Chyfnod Allweddol 2 i’r Ganolfan Celfyddydau yn Aberystwyth i weithio gyda’r arlunydd amgylcheddol, Tim Pugh. Gwelsant ddarnau o’i waith celf gan iddynt gymryd ddiddordeb mawr yn y deunydd roedd wedi eu defnyddio i greu’r darluniau. Buont yn gweithio fel grwpiau i greu darluniau eu hunain gan ddefnyddio deunyddiau roeddent wedi eu hailgylchu a deunyddiau naturiol roeddent wedi eu casglu o amgylch yr ardal allanol. Da iawn blant, roedd eich darluniau yn wych ac yn greadigol iawn.

Picture
Picture
Picture
​Dr.Beic
Daeth Dr.Beic a Sioned o Sustrans i wneud gweithdy, “Bike Surgery” ble roeddent yn trwsio beiciau’r plant a gwneud yn siwr eu bod yn ddiogel i fynd ar y ffordd. Bu’n brysur iawn! Dysgodd blynyddoedd 4, 5 a 6 sut i wirio ei beiciau gyda Sioned. Diolch yn fawr i chi Sioned a Dr.Beic – gwers bwysig a buddiol iawn!

 
Picture
Picture
CogUrdd
Cynhalwyd cystadleuaeth CogUrdd yn yr ysgol ble roedd y plant yn gorfod paratoi salad gan ddefnyddio amrywiaeth o gynhwysion. Roedd pob un ohonynt yn edrych yn flasus iawn. Llongyfarchiadau i Glyn a ddaeth yn fuddugol yn y gystadleuaeth, gyda Daisy yn dod yn ail, a Noah yn drydydd. Da iawn Mark, Finn a Dylan am gystadlu hefyd.
 
Llongyfarchiadau mawr i Glyn Clift a wnaeth gynrychioloi’r ysgol yn yr ail rownd o’r gystadleuaeth. Fe goginiodd dau bryd mewn 90 munud. Da iawn ti Glyn!
Picture
​CA2 yng Nghastell Harlech
Aeth blynyddoedd 4, 5 a 6 ar drip i Gastell a thraeth Harlech yn rhan o prosiect ysgolion creadigol yng nghwmni yr aristiad Llyr ag Elin. Dysgon nhw am hanes y castell a’i gysylltiad gyda stori Branwen. Hefyd ar y traeth buont yn creu fersiwn ei hunain o’r stori. Mwynheuwyd y daith a’r gweithgareddau yno.

Ysgol Greadigol Y tymor yma, yn nosbarth blynyddoedd 4, 5 a 6, maent wedi dechrau “Ysgol Greadigol” o dan arweinyddiaeth yr artistiaid, Elin a Llŷr. Y bwriad yw i gynyddu diddordeb mewn storïau drwy’r Gymraeg. Mae’r dosbarth ar hyn o bryd yn gweithio’n galed ac yn greadigol iawn ar stori, “Branwen”. Maent wedi bod yn creu cymeriadau allan o glai, gweithio lawr ar y traeth yn gwneud amrywiaeth o bethau ac wedi bod yn brysur yn creu llyfrau braslunio ei hun. / Creative Schools This term, year 4, 5 and 6 have started the "Creative Schools" project under the leadership of artists, Elin and Llŷr. The aim is to increase interest in Welsh stories. So far, the class has been doing work based on the Welsh folk tale, "Branwen”. They've been doing various creative activities such as making characters out of clay, freeze frames on the beach, and making their own sketchbooks.
​

Picture
Picture

Gig Siarter Iaith Aeth plant blwyddyn 5 a 6 i Gig Siarter Iaith ym Mhontrhydfendigaid i wylio a rocio ar y cyd gyda’r bandiau “Mellt” a “Candelas”. Roedd pob un o’r plant wedi mwynhau mas draw yn dawnsio’r prynhawn bant!

Picture
Picture
Picture

Diwrnod Faciwi Gan taw “Yr Ail Ryfel Byd” oedd thema blynyddoedd 4, 5 a 6 am y tymor, cawsom ddiwrnod Faciwi a buont yn gwisgo i fyny mewn gwisgoedd tebyg i’r rheiny o’r cyfnod. Roeddent wedi gwneud amryw o weithgareddau drwy’r dydd fel datrys posau, chwilio am gysgodfan wrth glywed y seiren ac hefyd ddilyn ryseitiau a choginio ambell o’r bwydydd o’r cyfnod. Diwrnod llawn hwyl wrth ddysgu am y cyfnod.

​

Y Bws Cerdded. Dechrau mis Rhagfyr, dechreuodd yr ysgol wneud “Y Bws Cerdded”, sydd bellach yn digwydd pob bore dydd Gwener. Mae athrawon a rhieni sy’n gwirfoddoli yn dechrau’r daith o’r orsaf dren am 8.30yb ac yn cerdded i’r ysgol, ac mae plant yn medru ymuno a’r bws ar ein taith. Mae’r “Bws Cerdded” yn ffordd o hybu pobl i gerdded i’r ysgol a lleihau y nifer o geir sydd yn dod i’r ysgol yn y bore. Diolch i’r rhieni sydd yn gwirfoddoli!

​


Picture

Clwb Cŵl – Creu Torchau Nadoligaidd Ymunodd rhieni gyda’r Clwb Cŵl ar ddiwedd mis Tachwedd i greu torchau Nadoligaidd ar y cyd gyda’r plant ar gyfer eu gwerthu yn neuadd y pentref. Diolch am gyfraniad pawb mewn unrhyw ffordd - y rhai a wnaeth gyfrannu’r adnoddau i greu’r torchau, ei gwneud a’i gwerthu.

Picture
Picture

Trip i Tesco Fel sbardun i’w thema, “Archfarchnad”, ar ddechrau’r tymor, aeth dosbarth Blwyddyn 2 a 3 ar ymweliad i Tesco, Aberystwyth. Derbyniwyd croeso cynnes gan yr adran “Farm to Fork”, ble cawsom gyfle i ymweld â phob twll a chornel o’r siop! Cawsom gyfle i fynd i gefn y siop i weld yr oergelloedd a’r rhewgelloedd enfawr, yr adran dillad, a’r adran Tesco.com. Hefyd bu cyfle i flasu gwahanol fathau o fara ffres, caws a ham. Dysgom lawer iawn o ffeithiau am yr archfarchnad ac o ble a sut yr oedd y bwyd yn teithio i’r siop. Diolch yn fawr i staff Tesco am y croeso.

Picture
Picture
Picture

Mabolgampau'r ysgol 2017 / School Sports day 2017. Da iawn i bob plentyn a wnaeth gymryd rhan ym Mabolgampau'r ysgol. Roeddech i gyd yn ardderchog! Diolch yn fawr iawn i bawb a ddaeth i gefnogi. / Well done to every pupil that competed in the school sports day. Thank you very much to all that came to support the school. The children were brilliant!! Also massive thank you to the PTFA for the excellent food and drinks provided! 

Ysgolion Iach / Healthy Schools. Rydym wedi cael ein gwobrwyo gyda Lefel 3, asesiad Ysgolion Iach. Hwre! / We have passed our Healthy Schools assessment and now have level 3. Hurray!

Hwyl a sbri yn Gwersyll yr Urdd Llangrannog! / Fun filled weekend at Llangrannog Urdd Camp! Plant Cyfnod Allweddol 2 (a'r athrawon) wedi cael penwythnos i'w gofio ar safle yr Urdd yn Llangrannog,  yn gwneud llawer iawn o weithgareddau. / Key Stage 2 children (and the staff) had a weekend to remember at the Urdd Campsite in Llangrannog, doing lots of different activities.

Llwyddiant yn Sioe Aberystwyth / Great success in Aberystwyth Show. ​  Da iawn i sawl ddisgybl am eu llwyddiant gyda'i gwaith celf a chrefft yn Sioe Aberystwyth. / Well done to every child that competed in the Aberystwyth Show with their arts and crafts work. Excellent children! 

Sesiynau Natur / Nature Sessions

Powered by Create your own unique website with customizable templates.